Michel Barnier - trafodwr dan y lach
Mae prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier yn ceisio cosbi Prydain yn ystod y trafodaethau, yn ôl Aelod Seneddol Ewropeaidd o’r Almaen.

Ar drydydd diwrnod y trafodaethau ym Mrwsel, dywedodd Hans-Olaf Henkel fod Michel Barnier a chydlynydd Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Guy Verhofstadt eisiau sicrhau bod y broses yn “drychinebus” fel na fydd unrhyw wlad arall yn ceisio gadael.

Mae Hans-Olaf Henkel wedi annog Prydain i dderbyn dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop fel bod modd aros yn rhan o Euratom, sy’n dyfarnu ar faterion yn ymwneud ag ynni niwclear.

Awgrymodd hefyd y byddai’n ffafrio gofyn i bobol Prydain unwaith eto a ydyn nhw am adael yr Undeb Ewropeaidd cyn mynd ati i gwblhau’r broses.

Trafodaethau ariannol

Ymhlith y prif bynciau trafod eraill mae statws trigolion Ewrop yng ngwledydd Prydain, ffiniau a’r ddeddf fydd yn galluogi Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’n ymddangos mai’r setliad ariannol yw prif asgwrn y gynnen ar hyn o bryd, wrth i Ewrop fynnu bod Prydain yn talu degau o biliynau o bunnoedd er mwyn gadael.

Ond does gan Lywodraeth Prydain ddim bwriad i gytuno ar ffi tan y funud olaf – ac mae’r Undeb Ewropeaidd wedi eu cyhuddo o osgoi amlinellu’r hyn maen nhw’n credu yw eu cyfrifoldebau ariannol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Angen cyfaddawdu’

Mae Hans-Olaf Henkel, sy’n aelod o blaid LKR ac yn ddirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewropeaidd (ECR), fod angen i’r “ddwy ochr gyfaddawdu”.

Mewn erthygl ym mhapur newydd The Times, dywedodd na ddylai Aelodau Seneddol Ewropeaidd wrando ar Guy Verhofstad a Michel Barnier gan eu bod nhw “eisiau gwneud llanast o’r holl sefyllfa anhapus hon”.

Dywedodd fod agwedd Guy Verhofstadt a’i awydd i greu ‘Unol Daleithiau Ewrop’ yn debygol o arwain at Brexit “trychinebus” drwy adael i wleidyddion gwrth-Ewropeaidd i arwain y cyfan.

“Mae Mr Verhofstad eisiau cosbi’r Prydeinwyr, atalnod llawn. Mae e’n dweud nad yw e eisiau gwneud hynny, ond dw i’n ofni ei fod e.

“Fy argraff i yw fod Mr Barnier eisiau gwneud yr un fath. Mae’r rheswm yn syml. Bydden nhw’n ceisio sicrhau bod Brexit yn gymaint o drychineb fel na fyddai’r un wlad arall yn meiddio cymryd y cam o adael yr Undeb Ewropeaidd eto.”