Am y tro cyntaf erioed, fe fydd y BBC yn cyhoeddi heddiw pwy o’u sêr sy’n ennill cyflog o dros £150,000.

Bydd cyflogau 96 unigolyn yn cael eu datgelu mewn rhestr gyhoeddus, ac mae disgwyl y bydd y cyflwynydd, Graham Norton, ynghyd â’r newyddiadurwr, Andrew Marr, ar y rhestr honno.

Dim ond un o bob tri o’r sêr sydd yn fenywod, meddai nodiadau sydd wedi’u rhyddhau o flaen llaw. Mae disgwyl y bydd y cyhoeddiad yn arwain at drafodaeth ehangach am yr angen i gau ‘bwlch cyflog’ y Gorfforaeth.

Mae’r BBC yn mynnu mai “llai na chwarter 1%” o’u sêr sydd yn ennill cyflogau dros £150,000, ac maen nhw’n dweud bod eu prif dalent yn costio 10% yn llai eleni o gymharu â’r llynedd.

Cymharu cyflogau

“Byddwch wrth gwrs yn dod i gasgliadau eich hunain ond dydy cymharu cyflogau ddim yn syml,” meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall.

“Does dim llawer o bobol sydd yn gwneud yn union yr un swydd ac, yn aml, mae pobol sy’n gweithio ar yr un rhaglen ag ymrwymiadau gwahanol.”