Llun: NSPCC
Mae un o asiantaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod talu iawndal i blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ar y sail eu bod wedi “cydsynio” i’r gamdriniaeth, yn ôl grŵp o ymgyrchwyr.
Mae’r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol (CICA) wedi gwrthod talu iawndal i bron 700 o ddioddefwyr, rhai mor ifanc â 12 oed.
Yn sgil hyn, mae grŵp o elusennau sy’n cynnwys Barnardo’s a Chymorth i Ddioddefwyr wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Lidington, i adolygu canllawiau’r asiantaeth.
Dylai rheolau’r asiantaeth newid, yn ôl yr elusennau, fel bod plant sydd wedi cael eu cam-drin yn medru derbyn iawndal.
“Hollol warthus”
“Mae gwrthod talu iawndal i blant oherwydd eu bod wedi ‘cydsynio’ i’r gamdriniaeth yn hollol warthus. Mae’r rheolau sydd i fod i amddiffyn plant mewn gwirionedd yn eu niweidio,” meddai Prif Weithredwr Barnardo’s, Javed Khan.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd ati ar frys, i adolygu canllawiau’r CICA fel bod dioddefwyr yn derbyn yr hyn maen nhw’n ei haeddu. Rhaid i weinidogion sicrhau bod dim un plentyn yn cael eu cyhuddo o gydsynio i’w camdriniaeth.”
Mae llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Cyfiawnder yn dweud bod y Llywodraeth “wedi ymrwymo i wneud popeth yn eu gallu dros y dioddefwyr” a’u bod yn mynd i “ystyried pryderon yr elusennau.”