Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae disgwyl i Theresa May atgoffa gweinidogion i beidio trafod cynnwys cyfarfodydd y Cabinet yn dilyn cyfres o sylwadau sydd wedi cael eu datgelu sy’n targedu’r Canghellor Philip Hammond.

Fe fydd y Prif Weinidog yn defnyddio cyfarfod arferol ei Chabinet ddydd Mawrth i “atgoffa” gweinidogion y dylai trafodaethau am bolisi’r Llywodraeth yn ystod cyfarfodydd aros yn breifat ac y dylen nhw ganolbwyntio ar eu dyletswyddau, meddai llefarydd swyddogol Theresa May yn ystod cynhadledd newyddion.

Daw’r ymdrech i ddisgyblu rhai aelodau o’r Cabinet yn dilyn cyfres o straeon mewn papurau newydd ynglŷn â sylwadau wnaeth Philip Hammond yn ystod cyfarfod y Cabinet wythnos ddiwethaf.

Fe arweiniodd at stori ar dudalen flaen y Daily Telegraph yn dyfynnu gweinidog y Cabinet, oedd heb gael ei enwi, oedd yn cyhuddo’r Canghellor o geisio cynllwynio i atal Prydain rhag gadael yr UE.

Mewn cyfweliad teledu ddydd Sul fe wnaeth Philip Hammond gyhuddo aelodau o’r Cabinet o geisio tanseilio ei agenda ar gyfer Brexit a fyddai’n rhoi’r pwyslais ar swyddi a’r economi.

Dywedodd llefarydd Theresa May nad oedd yn ymwybodol bod unrhyw ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod y ffynhonnell y tu ôl i’r datgeliadau o’r cyfarfod Cabinet wythnos ddiwethaf.

Ail-ddechrau trafodaethau Brexit

Daw’r cecru mewnol i’r amlwg wrth i’r  Ysgrifennydd Brexit, David Davis, ail-ddechrau’r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ym Mrwsel heddiw.

Mae disgwyl i ail-rownd y trafodaethau gyda phrif drafodwr y Comisiwn Ewropeaidd Michel Barnier ganolbwyntio ar hawliau dinasyddion Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig, y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, a’r setliad ariannol i adael yr Undeb.