Fe allai diwygio arholiadau TGAU arwain at “golli sylwedd addysg” o ysgolion Lloegr, yn ôl pennaeth Ofsted, Amanda Spielman.

Mae hi wedi rhybuddio am roi gormod o bwyslais ar wella canlyniadau ar draul sicrhau bod y cwricwlwm yn cynnig addysg eang i blant.

Mae’r graddau A*-G ar gyfer Saesneg a Mathemateg wedi’u disodli gan rifau 9-1, lle mai 9 yw’r canlyniad gorau posib. Y bwriad yw cyflwyno’r drefn ar gyfer pob pwnc dros y blynyddoedd nesaf.

Mae cefnogwyr y cynllun yn dweud bod cyflwyno rhifau’n well er mwyn gwahaniaethu rhwng cyflawniadau’r disgyblion.

Ond mae pryderon y bydd hi’n fwy anodd o dan y drefn newydd i ddisgyblion gyrraedd y graddau uchaf.

‘Lles plant’

Dywedodd Amanda Spielman wrth bapur newydd y Sunday Times fod y pwysau i lwyddo o dan y drefn newydd yn golygu bod ysgolion Lloegr yn ei chael hi’n anodd sichrau mai lles plant sy’n dod gyntaf.

“Mae gwir sylwedd addysg yn cael ei golli o’n hysgolion,” meddai, gan rybuddio bod y drefn newydd yn amddifadu disgyblion o gael “addysg eang a chytbwys”.

Mae hi’n honni ei bod hi wedi gweld plant 11 oed yn cael gwersi ar feysydd llafur TGAU yn hytrach na’u gwersi arferol mewn un ysgol.

Mae lle i gredu hefyd fod rhai ysgolion yn ymestyn cyrsiau o ddwy flynedd i dair er mwyn rhoi mwy o amser i’r disgyblion gael paratoi ar gyfer arholiadau.

Tra byddai’r dull hwn yn sicrhau “canlyniadau rhagorol”, dywedodd Amanda Spielman y gallai amddifadu disgyblion o’r sgiliau fydd eu hangen arnyn nhw yn nes ymlaen yn eu bywydau.

NASUWT

Yn gynharach eleni, rhybuddiodd undeb NASUWT y gallai’r newidiadau niweidio addysg disgyblion yn Lloegr.

Ond mae llefarydd ar ran Adran Addysg San Steffan wedi dweud bod y drefn newydd yn gosod disgyblion Lloegr “yn erbyn y goreuon yn y byd”.

“Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo mewn gwaith ac wrth astudio ymhellach ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain.”