Mae llanc 16 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car yr heddlu a moped yn ne-orllewin Llundain.

Roedd tri o lanciau ar y moped ar y pryd, ac roedden nhw’n cael eu cwrso yn ardal Wimbledon gan fod yr heddlu’n credu bod y cerbyd wedi’i ddwyn, a’i fod ynghlwm wrth achos o ddwyn yn gynharach yn y dydd.

Cafodd llanc arall 16 oed anafiadau difrifol i’w goes, a chafodd llanc 15 oed fân anafiadau.

Cafodd y tri eu harestio, a chafodd sawl cyllell eu darganfod.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad.