Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd (Llun: PA/Stefan Rousseau)
Mae Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd yn ystyried cyflwyno dedfryd o oes o garchar ar gyfer ymosodiadau ag asid.

Rhybuddiodd hi mewn erthygl ym mhapur newydd y Sunday Times y byddai unrhyw un sy’n defnyddio asid neu hylifau peryglus eraill i ymosod ar rywun arall yn wynebu “grym llawn y gyfraith”.

Yn ôl y cynlluniau, byddai asid yn cael ei ystyried yn arf beryglus.

Fe fydd y cynlluniau hefyd yn gosod cyfyngiadau ynghylch pwy fydd â’r hawl i werthu’r fath hylifau a sylweddau.

Ymosodiadau diweddar

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cyfres o ymosodiadau ag asid, gan gynnwys pump ymosodiad cysylltiedig yn Llundain ddydd Iau.

Fe fydd y Swyddfa Gartref yn cydweithio â’r heddlu a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn ystyried pa bwerau sydd ar gael i’r llysoedd i gosbi troseddwyr.

Cosbau

Ar hyn o bryd, mae bod ag asid neu sylweddau peryglus eraill gyda’r bwriad o niweidio rhywun yn gallu cael ei drin fel bod ag arf beryglus yn eich meddiant, ac mae modd carcharu troseddwyr am bedair blynedd ar y mwyaf.

Fe fydd asid a sylweddau peryglus eraill yn cael eu hystyried yn arfau peryglus, ac fe fydd mwy o ganllawiau ar gael er mwyn deall beth yw’r ‘bwriad o niweidio’.

Fe fydd Deddf Gwenwyn 1972 yn cael ei hadolygu er mwyn cynnwys sylweddau mwy niweidiol, a bydd cyfyngiadau ar werthu’r fath sylweddau.

Fe fydd yr heddlu’n derbyn canllawiau newydd hefyd ar sut i atal ymosodiadau ag asid, archwilio troseddwyr honedig ac ymateb i ymosodiadau yn y fan a’r lle.

Ymosodiadau ag asid

Roedd mwy na 400 o ymosodiadau ag asid yng Nghymru a Lloegr yn y chwe mis hyd at Ebrill 2017, yn ôl ffigurau diweddar.

Canyddion, amonia ac asid oedd y sylweddau mwyaf cyffredin, yn ôl y Swyddfa Gartref.

Bydd cynlluniau Llywodraeth Prydain yn cael eu hamlinellu ddydd Llun.