Mae dyn 31 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth gan ddau ymosodwr ar foped yn ne-ddwyrain Llundain.
Clywyd sŵn ergydion o ddryll hefyd yn yr ymosodiad yn King William Walk yn Greenwich ychydig wedi hanner nos.
Roedd y ddau ymosodwr wedi ffoi oddi yno ar foped.
Wrth gychwyn ymchwiliad i lofruddiaeth, dywed yr heddlu eu bod yn cadw meddwl agored ynghylch y cymhelliad ar hyn o bryd.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o droseddau lle’r oedd yr ymosodwyr yn reidio moped.
Mae’n dilyn pum ymosodiad asid ar gyd-feicwyr moped yn Llundain nos Iau ac un arall neithiwr.
Mae dau fachgen, 15 a 16 oed yn dal yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiadau nos Iau.