(llun: PA)
Dywed y cyn-brif weinidog Tony Blair ei fod yn credu bod yr Undeb Ewropeaidd yn barod i gyfaddawdu â llywodraeth Prydain ar faterion llosg fel cyfyngu ar fewnfudo.

O’r herwydd, mae’n dadlau y dylai Prydain gadw’r opsiwn yn agored o aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ar delerau newydd.

Mae o’r farn y gall “ewyllys y bobl” newid wrth i anawsterau trafodaethau Brexit ddod i’r amlwg, ac mae’n gadw am drafodaeth lawn ar yr holl wahanol ddewisiadau.

“Dylai’r dewisiadau gynnwys yr opsiwn o drafodaethau i Brydain aros o fewn Ewrop sy’n barod i ddiwygio a’n cyfarfod ni hanner ffordd,” meddai.

“Mae’n anochel y bydd Ewrop yn cynnwys cylch mewnol a chylch allanol. Mae diwygio ar yr agenda bellach. O’r trafodaethau a gefais i gydag arweinwyr Ewropeaidd, maen nhw’n barod i ystyried newidiadau i gynnwys Prydain, gan gynnwys hawl pobl i symud.

“Mae pawb ohonom yn dysgu, wrth inni symud ymlaen, y difrod y bydd Brexit yn ei wneud.

“Fe wyddon ni fod ein harian i lawr 12%; mae swyddi eisoes yn mynd; does dim £350 miliwn yr wythnos yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd; ac mae arnom angen y mwyafrif o fewnfudwyr sy’n dod i weithio i Brydain.”