Heddiw bydd Llywodraeth Prydain yn cychwyn ar strategaeth gyffuriau newydd.

Y gobaith yw lleihau’r camddefnydd o gyffuriau gan unigolion a chynyddu’r nifer sy’n gwella ar ôl bod yn ddibynnol ar gyffuriau.

Bydd yr hyn sy’n cael ei alw’n gyffuriau “Chemsex” – sef cyffuriau sy’n cynyddu egni rhywiol – yn cael eu targedu fel rhan o’r strategaeth newydd hon.

Yn ôl ffigyrau gan y Llywodraeth, fe wnaeth 2.7 miliwn o bobl – sef dros 8% – rhwng 16-59 oed yng Nghymru a Lloegr gymryd cyffuriau anghyfreithiol yn y cyfnod 2015/16 – gostyngiad o 10.5% ers deng mlynedd yn ôl.

Er hynny, dywedodd y Swyddfa Cartref fod yna fygythiadau newydd yn codi ym myd cyffuriau, fel y camddefnydd o gyffuriau presgripswn, sylweddau fel ‘spice’ a chyffuriau ‘Chemsex’.

“Agwedd newydd”

Meddai Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Cartref:  “Dw i’n benderfynol o wynebu maint y mater hwn a rhwystro’r camddefnydd o gyffuriau rhag dinistrio ein teuluoedd a’n cymunedau.

“Fe fydd y strategaeth newydd hon yn dod ynghyd â’r heddlu, iechyd, cymuned a phartneriaid rhyngwladol i daclo’r fasnach gyffuriau anghyfreithlon, diogelu pobl ddiniwed ac i helpu’r rheiny sy’n dioddef i wella’u bywyd.”