Ymosodiad hollol farbaraidd meddai Cressida Dick
Mae bachgen yn y ddalfa wedi i ddau ar feic moped yrru o gwmpas Llundain a chyflawni pum ymosodiad asid mewn llai nag awr a hanner, yn ôl yr heddlu.

Fe gafodd y llanc 16 oed ei arestio ar amheuaeth o ddwyn a chreu niwed corfforol difrifol yn dilyn yr ymosodiadau, sydd yn gysylltiedig yn nhyb Heddlu Llundain.

Mae un o ddioddefwyr yr ymosodiadau asid neithiwr wedi cael anafiadau difrifol sydd  am newid ei fywyd, ychwanegodd yr heddlu.

Yn ôl Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu Llundain, mae’r ymosodiadau asid diweddaraf yn “hollol farbaraidd”.

Mae’r Aelod Seneddol Stephens Timms wedi galw am garcharu’r rhai sy’n euog o ymosod gydag asid am gyfnodau hirach.

Bydd y gwleidydd Llafur yn tanio trafodaeth ar y mater yn y Senedd ddydd Llun.

Daw ymosodiad neithiwr ychydig ddyddiau wedi i John Tomlin, 25, ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o daflu asid ar Resham Khan, 21, a’i chyfneither Jameel Muhktar, 37.

Fe ddioddefon nhw anafiadau difrifol fydd yn para oes yn dilyn yr ymosodiad ym mhen blwydd Resham Khan yn 21 oed yn Beckton, dwyrain Llundain.