Charlie Gard (llun drwy law y teulu/PA)
Fe fydd gwrandawiad yn yr Uchel Lys ar achos y babi, Carlie Gard, yn ailddechrau heddiw.
Mae’r plentyn 11 mis oed – sydd ar beiriant cynnal bywyd yn Ysbyty Great Ormond Street oherwydd cyflwr prin sydd wedi effeithio ar ei ymennydd – wedi bod ynghanol brwydr gyfreithiol sydd wedi cael sylw ar draws y byd dros yr wythnosau diwethaf.
Dyma rownd diweddaraf y frwydr gyfreithiol sy’n cael ei harwain gan ei rieni, Chris Gard a Connie Yates, sy’n benderfynol o gael yr hawl i’w mab dderbyn triniaeth arbrofol yn yr Unol Daleithiau.
Ond mae meddygon yr ysbyty yn Llundain yn dweud na fydd y driniaeth o gymorth iddo a bod angen i’r peiriant cynnal bywyd gael ei ddiffodd.
Brwydr hir
Mae’r pâr, sydd yn eu tridegau ac yn dod o Bedfont yng ngorllewin Llundain, eisoes wedi methu yn eu hymdrechion yn yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys.
Maen nhw hefyd wedi methu â pherswadio Llys Hawliau Dynol Ewrop i ymyrryd yn yr achos.
Ym mis Ebrill, fe wnaeth barnwr yr Uchel Lys benderfynu o blaid barn Ysbyty Great Ormod Street y dylai’r babi farw gydag urddas.
Fe fydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn adran teuluoedd yr Uchel Lys heddiw.