Mae pedwar athro o ysgol foned flaenllaw yn ne Lloegr, wedi eu cyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol sy’n dyddio’n ôl bron i 40 mlynedd.

Roedd y dynion yn dysgu yn Ysgol Christ’s Hospital yn Horsham, Gorllewin Sussex.

Digwyddodd yr ymosodiadau honedig ar 15 dioddefwr, yn ferched ac yn fechgyn, rhwng 1980 a 1996, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae Gary Dobbie, 66, wedi’i gyhuddo o saith achos o ymosod yn anweddus ar wryw, un achos o geisio ymosod yn anweddus ar wryw a thri achos o ymosod yn anweddus ar fenyw.

Mae James Husband, 67, yn wynebu pedwar achos o dreisio a pum achos o ymosod yn anweddus ar fenyw.

Cafodd Peter Webb, 74, ei gyhuddo o chwe achos o ymosod yn anweddus ar wryw, tra bod Ajaz Karim, 62, wedi’i gyhuddo o naw achos o ymosod yn anweddus ar fenyw ac un achos o geisio ymosod yn anweddus ar fenyw.

Mae disgwyl i’r dynion ymddangos o flaen Llys Ynadon Crawley ar Awst 9.

Datganiad gan yr ysgol

Mae Ysgol Christ’s Hospital yn codi tâl o hyd at £31,500 y flwyddyn ar gyfer disgyblion sy’n cael eu haddysg ac yn preswylio yno.

Cafodd yr ysgol ei sefydlu yn y 16eg ganrif ac mae ei disgyblion yn dal i wisgo gwisg ysgol arddull Duduraidd o gotiau hir glas a hosanau melyn uchel.

Mewn datganiad, dywed yr ysgol ei bod yn “ymrwymedig i ddiogelu a hybu lles ei ddisgyblion ac yn parhau i roi ei chefnogaeth lawn i’r heddlu â’u hymchwiliadau”.