Tŵr Grenfell
Fe lwyddodd tua 255 o bobol i ffoi rhag y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, yn ôl yr Heddlu Metropolitan.

Wrth roi diweddariad am y digwyddiad dywedodd Scotland Yard eu bod nhw o hyd yn credu bod cyfanswm o tua 80 o bobol naill ai wedi marw neu ar goll yn sgil y trychineb ar 14 Mehefin.

Mae cyrff 32 o bobl wedi cael eu hadnabod yn swyddogol gyda 55 o archwiliadau post-mortem wedi’u cynnal.  Mae’n bosib na fydd yn bosib adnabod rhai o’r cyrff oherwydd y difrod a achoswyd gan y tân.

Mae ymchwiliadau wedi datgelu y dylai bod 350 o bobol yn y tŵr ar noson y tân ond yn ôl yr heddlu doedd 14 o’r preswylwyr ddim yn yr adeilad.

Hyd yma mae swyddogion wedi siarad â phreswylwyr o 106 o’r 129 o fflatiau yn y tŵr, ond maen nhw wedi methu a chysylltu ag unigolion oedd yn byw yn y 23 fflat arall.

Ystadegau swyddogol

Mae ’na bryderon nad yw’r ystadegau swyddogol yn llwyr adlewyrchu ehangder y trasiedi oherwydd bod nifer o breswylwyr y fflatiau yn byw yno yn anghyfreithlon.

Mae tenantiaid wedi cael eu hannog i gyfaddef os oedden nhw’n rhentu eu fflatiau i bobol eraill yn anghyfreithlon, ac mae’r  Llywodraeth wedi mynnu na fydd unrhyw un yn cael eu cosbi am ddatgelu hynny.

Mae ymchwiliad yr heddlu i achos y tan yn parhau.