Y babi Charlie Gard, Llun: Drwy law y teulu/PA
Mae rhieni’r babi, Charlie Gard, wedi dweud eu bod yn obeithiol ynglŷn â gwrandawiad llys yn eu hymdrech ddiweddaraf iddo gael yr hawl i gael triniaeth arbrofol.

Mae’r plentyn 11 mis oed, sydd ar beiriant cynnal bywyd yn Ysbyty Great Ormond Street, wedi bod ynghanol brwydr gyfreithiol sydd wedi cael sylw ar draws y byd.

Mae ei rieni, Connie Yates a Chris Gard, yn dweud eu bod yn benderfynol i barhau i frwydro am yr hawl i’w babi gael triniaeth arbrofol dramor.

Roedd y cwpl wedi cyflwyno deiseb, ag arni 350,000 o enwau, i Ysbyty Great Ormond Street ddydd Sul. Roedd y ddeiseb wedi’i llofnodi gan bobl o bob rhan o’r byd.

Mae’n galw am ganiatáu i’r teulu deithio dramor er mwyn i Charlie Gard gael triniaeth, sydd hyd yn hyn wedi cael ei atal yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys.

Mae eu hymdrechion yn yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys wedi methu, gyda’r barnwyr yn cytuno gyda meddygon Ysbyty Great Ormond Street y dylai Charlie Gard gael yr hawl i farw gydag urddas. Maen nhw’n dadlau na fydd y driniaeth yn ei wella.

Fe fydd yr achos yn dychwelyd i’r Uchel Lys ddydd Llun i glywed rhagor o ddadleuon yn dilyn adroddiadau bod “gwybodaeth newydd” wedi dod i law gan ymchwilwyr yn ysbyty plant y Fatican yn Rhufain.