Mae elusen wedi galw am oedi tros gyflwyno sustem fudd-daliadau newydd sydd, medden nhw, “wedi methu i ormod o bobol”.

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn galw am ddal yn ôl cyn i’r fudd-dal y Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno ar draws y wlad.

Mae’r system wedi bod yn cael ei phrofi yn Sir y Fflint, ymhlith ardaloedd eraill yng ngwledydd Prydain, ond mae angen dileu problemau difrifol cyn ei lledu ymhellach, meddai’r CAB.

Y cefndir

Cafodd y sustem credyd cynhwysol ei chyflwyno yn 2013 er mwyn cyfuno chwech math gwahanol o fudd-dal gan gynnwys budd-dal tai a chredydau treth.

Er bod y sustem newydd fod i ddiwygio’r sefyllfa bresennol mae Cyngor ar Bopeth yn codi ofnau am “broblemau” sydd, medden nhw, yn “peryglu miloedd o deuluoedd.”

Yn ôl adroddiad gan yr elusen, mae gofynion y sustem newydd yn golygu fod pobol yn wynebu ansicrwydd ariannol, ac yn gwthio llawer o bobol i mewn i ddyled.

Mae’n honni bod dros draean (39%) o bobol yn gorfod aros dros chwech wythnos i dderbyn eu taliad cynta’ ac mae’n rhaid i 11% aros dros 10 wythnos am y budd-dal.

“Rhaid oedi”

“Mae credyd cynhwysol wedi methu i ormod o bobol,” meddai Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth, Gillian Guy. “R’yn ni’n cefnogi’r credyd cynhwysol, ond mae cyflwyno’r newidiadau tra bod gan y sustem broblemau, yn peryglu miloedd yn fwy o deuluoedd yn ariannol.”

“R’yn ni’n galw ar y llywodraeth i oedi’r cynlluniau i gyflwyno gwasanaeth credyd cynhwysol, a chanolbwyntio’u hamser ac adnoddau ar wella’r prif broblemau sydd yn atal y sustem rhag gweithio.”

Fe rybuddiodd llefarydd ar ran yr elusen yng Nghymru y byddai rhagor o bobol mewn peryg wrth i’r budd-dal newydd gael ei ledu tros ragor o ardaloedd.

Mae’r sustem newydd yn raddol yn cael ei gyflwyno i rannau o wledydd Prydain dros gyfnod o ddwy flynedd ac mae 467,000 o bobol yng Nghymru a Lloegr yn derbyn y budd-dal ar hyn o bryd.