Mae gan fwy na 3,500 o blant a phobol ifanc yn eu harddegau yng Nghymru a Lloegr drwydded i gadw gwn.

Yn ol ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw gan y Swyddfa Gartref, mae cyfanswm y bobol dan 18 sy’n berchen gwn yn 3,541. Mae 327 o’r rheiny dan 13 oed, tra bod 3,214 rhwng 14 ac 17.

Mae’r bobol ifanc yn defnyddio’r gynnau ar gyfer saethu targed, yn ogystal ag at ddibenion cefn gwlad.

Does yna ddim isafswm oedran ar gyfer gwneud cais am drwydded gwn, ond mae’r gyfraith yn rhwystro plant dan 15 rhag defnyddio gwn os nad ydyn nhw dan oruchwyliaeth oedolyn dros 21 oed.

Dydi trwydded gwn ddim yn rhoi caniatad i neb dan 14 brynu na defnyddio reiffl, na phrynu cetris a bwledi. Ond mae un drwydded yn galluogi unigolyn i fod â sawl gwn.