Llun: PA
Mae’r heddlu’n ymchwilio wedi i swyddog carchar gael ei drywanu yn ei wddw gan garcharor yn Norwich.

Mae’r swyddog, sydd yn ei 40au, wedi’i gludo i Ysbyty Prifysgol Norfolk a Norwich, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth wedi’r ymosodiad ar Fehefin 11.

“Dydyn ni ddim yn goddef unrhyw ymosodiad nac unrhyw fath o drais yn ein carchardai,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchar.

“Pan mae pethau fel hyn yn digwydd, rydyn ni bob amser yn gweithio’n agos gyda’r heddlu er mwyn pwyso am y gosb fwya’ llym.”