Mae rhan o adeilad ger Tŵr Grenfell yn Llundain wedi cael ei wagio yn dilyn pryderon y gallai tân ddigwydd yno.

Cafodd swyddfa cyfreithwyr yng ngogledd Kensington ei gwagio gan yr heddlu’n gynnar y bore ma, meddai llefarydd, ac fe fu’n rhaid i oddeutu 50 o bobol aros ar y stryd heb wybod beth oedd yn digwydd.

Dywedodd rhai ohonyn nhw eu bod nhw wedi cael cyngor gan gymdogion i adael, ond eu bod nhw’n aros i’r heddlu roi eglurhad.

Mae gweithwyr y swyddfa wedi cael eu symud i swyddfa gyfagos am y tro gan fod un o allanfeydd tân eu hadeilad ger Tŵr Grenfell yn cael ei harchwilio gan y gwasanaeth tân.

Dywedodd Heddlu Llundain nad oedden nhw’n ymwybodol o unrhyw argyfwng, ac fe ddywedodd plismyn ar y safle fod “gwybodaeth wedi’i throsglwyddo ar gam”, cyn rhoi caniatâd i drigolion ddychwelyd i’r adeilad.

Cadarnhaodd yr heddlu bod profion wedi cael eu cynnal ar yr adeilad, ac fe ddywedodd ail lefarydd nad oedd gan y digwyddiad unrhyw gyswllt â phroblemau’n ymwneud â Thŵr Grenfell.