Mae tair wythnos union ers tân Tŵr Grenfell, ond mae’r mwyafrif o’r preswylwyr a oroesodd y trychineb yn dal i aros mewn gwestai.

Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i ddod o hyd i letyau addas i breswylwyr y tŵr, dim ond naw teulu sydd wedi derbyn llety parhaol newydd hyd yn hyn.

Yn ôl Tîm Ymateb Grenfell (GRT) mae lletyau parhaol yn ardaloedd Kensington a Chelsea wedi eu cynnig i bob unigolyn wnaeth ofyn am lety, ac mae’n debyg bod 19 teulu wedi gwrthod cynigion o gymorth.

Mae’n debyg bod y preswylwyr wedi gwrthod y cynigion am nifer o resymau gyda rhai yn honni bod rhenti’r lletyau newydd yn rhy gostus a bod nifer o’r fflatiau yn rhy fach.

“Tair gwaith y pris”

“Pryder y preswylwyr yw bod neb yn cyfathrebu â nhw a’u bod ond yn derbyn cynigion,” meddai ymgyrchydd sydd yn gweithio â theuluoedd Tŵr Grenfell.

“Mae pobol yn derbyn negeseuon testun sydd yn dweud ‘dyma eich cynnig, does dim rhent am flwyddyn ond wedi hynny mi fydd hi’n costio £400 yr wythnos’ – mae hynna tair gwaith y pris cynt.”