Abdelbaset al-Megrahi
Mae mab bomiwr Lockerbie, a gafwyd yn euog o ladd 270 o bobol ar fwrdd awyren yn 1988, wedi dweud ei fod “yn sicr 100%” bod ei dad yn ddieuog.

Daw’r sylw wrth i deulu’r bomiwr, Abdelbaset al-Megrahi, gyflwyno cais i apelio yn erbyn y dyfarniad, bum mlynedd ar ôl ei farwolaeth.

Cafwyd Abdelbaset al-Megrahi yn euog o lofruddiaeth yn 2001 a’i ddedfrydu i o leiaf 27 o flynyddoedd yn y carchar.

Bu farw o ganser y brostad yn 2012 pan oedd yn 60 oed, ar ôl cael ei rhyddhau yn 2009 er mwyn treulio amser gyda’i deulu.

Apelio

Collodd apêl yn erbyn y dyfarniad yn 2002 ond mi wnaeth Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yr Alban (SCCRC) argymell yn 2007 y dylai gael yr hawl i gyflwyno ail apêl.

Roedd Abdelbaset al-Megrahi wedi rhoi’r gorau i’r ail apêl yn 2009 ond penderfynodd ei weddw a’i fab Ali Megrahi, apelio ar ei ran yn dilyn ei farwolaeth.

Bydd yr SCCRC yn penderfynu os oes sail dros gyfeirio’r achos at y llys apêl.

“Carreg filltir”

“Mae lansio’r cais am apêl ar ran y teulu Megrahi yn garreg filltir yn y broses o brofi bod y dyfarniad yn erbyn fy nhad yn anniogel,” meddai ei fab Ali Megrahi, 22.

“Dw i’n sicr 100% ei fod yn ddieuog.”

Mae’r apêl newydd yn seiliedig ar bryderon am y dystiolaeth yn yr achos lle cafwyd al-Megrahi yn euog.