Y Canghellor Philip Hammond
Mae’r cyhoedd wedi “blino” gyda pholisïau llymder, meddai’r Canghellor Philip Hammond, ond nid yw’r Llywodraeth wedi newid ei safiad am y cyfyngiad o 1% ar gyflogau yn y sector cyhoeddus.

Wrth annerch arweinwyr busnes neithiwr, dywedodd y Canghellor y byddai’r Llywodraeth yn parhau i geisio bod yn deg gyda gweithwyr yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â’r trethdalwyr sy’n ariannu eu cyflogau.

Mae Philip Hammond wedi dod dan bwysau gan rai gweinidogion, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson, i lacio’r cyfyngiad o 1% ar gyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus sydd wedi bod mewn grym ers 2012.

Ond mewn araith i Gonffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), dywedodd bod yn rhaid i’r Llywodraeth ddal ei thir ac y gallai newid y polisïau nawr beryglu twf economaidd.

Fe fyddai cynyddu cyflogau’r sector cyhoeddus yn rhoi hwb i gyflogau 5.1 miliwn o weithwyr, gan gynnwys 1.6 miliwn yn y Gwasanaeth Iechyd (GIG), yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS). Mae’n debygol o gostio biliynau o bunnoedd.