Katie Rough (Llun: Heddlu Gogledd Swydd Efrog)
Mae merch 16 oed wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad merch saith oed, Katie Rough.
Fe ymddangosodd y ferch drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Leeds lle plediodd yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig.
Cafwyd hyd i Katie Rough gydag anafiadau difrifol i’w gwddf a’i brest ar gae chwarae yng Nghaer Efrog ym mis Ionawr a bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.
Roedd y ferch wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth.
Dywedodd ei chyfreithiwr bod adroddiadau seiciatryddol a seicolegol yn cael eu paratoi.
Ni ellir cyhoeddi enw’r ferch am resymau cyfreithiol.