Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1 miliwn i amddiffyn sefydliadau ac addoldai crefyddol.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl yr ymosodiadau brawychol diweddar, gan gynnwys un yn erbyn Mwslemiaid y tu allan i fosg yn Finsbury Park yn Llundain.

Mae’r buddsoddiad yn estyniad o’r cynllun addoldai gwerth £2.4 miliwn, a gall yr arian gael ei ddefnyddio i osod camerâu cylch-cyfyng a ffensys o amgylch adeiladau, ymhlith mesurau diogelwch eraill.

‘Dim lle i droseddau casineb’

Wrth lansio’r cynllun, dywedodd Amber Rudd: “Does dim lle i droseddau casineb yn y wlad hon ac fe fydd unrhyw un sydd wedi’i ysgogi i ymosod yn seiliedig ar hil, crefydd neu ideoleg yn wynebu grym llawn y gyfraith.

“Rhaid i bobol deimlo’n rhydd i arfer eu ffydd heb ofni trais na chamdriniaeth, a dyna pam y gwnes i lansio cronfa o £2.4 miliwn y llynedd i ddarparu diogelwch i addoldai fel rhan o’m Cynllun Gweithredu Troseddau Casineb.”