Mae tri dyn wedi’u harestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi a bod yn barod i achosi gweithredoedd brawychol.

Plismyn o adain gwrth-frawychiaeth Heddlu Llundain, ynghyd â ditectifs o Heddlu Sussex, aeth â’r dynion i’r ddalfa tua 6yh nos Wener (Mehefin 30). Fe wnaed yr arestiadau yn Essex ac yn Nwyrain Sussex.

Mae’r dynion, 28, 28 a 31 oed, yn cael eu cadw mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain.

Mae plismyn hefyd wedi gweithredu ar warantau mewn un cyfeiriad arall yn Nwyrain Sussex, a thri lleoliad arall yn nwyrain Llundain.