Porthladd Dover
Mae tancer olew a llong wedi bod mewn gwrthdrawiad yn y culfor ger Dover yn ne-ddwyrain Lloegr.

Roedd ‘Seafrontier’ ar ei ffordd i Barrios, Gwatemala, a’r ‘Huayang Endeavour’ yn mynd am Lagos yn Nigeria, pan aethon nhw’n erbyn ei gilydd rywbryd tua 2 o’r gloch y bore.

Mae’r ddwy long wedi’u difrodi, ond chafodd neb ei anafu, a does yna ddim olew o gwbwl wedi gollwng i’r dwr, meddai Gwylwyr y Glannau.

Roedd 37,953 tunnell o betrol ar ffwrdd y tancer, ‘Seafrontier’, ynghyd â chriw o 27 o bobol. Balast oedd gan yr ‘Huayang Endeavour’, a chriw o 22.