Y Canghellor Philip Hammond, Llun: PA
Mae elusennau wedi croesawu penderfyniad y Llywodraeth i ariannu erthyliadau yn Lloegr i ferched sy’n cyrraedd o Ogledd Iwerddon.

Fe wnaeth y Canghellor Philip Hammond y cyhoeddiad wrth i’r pwysau gynyddu ar y Llywodraeth a’i mwyafrif simsan. Mae’r Llywodraeth bellach yn ddibynnol ar gymorth gan y DUP sy’n cefnogi’r cyfyngiadau caeth ar erthyliadau yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd ’na ddyfalu bod dwsinau o ASau Ceidwadol yn bwriadu cefnogi gwelliant gan yr AS Llafur Stella Creasy i ganiatáu i ferched o Ogledd Iwerddon gael mynediad am ddim at wasanaethau erthylu’r Gwasanaeth Iechyd ym Mhrydain. Roedd disgwyl pleidlais ar y mater prynhawn ma.

Fe fyddai’r bleidlais wedi rhoi’r DUP mewn sefyllfa anodd yn y bleidlais derfynol yn Nhŷ’r Cyffredin ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth.

Mae erthyliad yn anghyfreithlon yng Ngogledd Iwerddon ar wahân i achosion lle mae bywyd neu iechyd meddwl y fam mewn perygl.

“Anghyfiawnder dybryd”

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd Prydain (BPAS) eu bod nhw “wrth ein boddau” bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ariannu erthyliadau merched sy’n teithio o Ogledd Iwerddon i Loegr.

“Er nad yw hyn yn datrys yr anghyfiawnder dybryd lle nad yw merched yng Ngogledd Iwerddon yn gallu cael mynediad at ofal erthyliad adre, rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn y mater yma. Serch hynny, mae hon yn ddigwyddiad pwysig, ac rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi ymdrechu i wireddu hyn.”

 “Hawl i ddewis”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360: “Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’n gryf hawl menywod i ddewis ac am i bob erthyliad gael ei gynnal yn ddiogel ac yn broffesiynol yn unol â gofynion y ddeddf erthylu.

“Ar hyn o bryd, mae erthyliadau ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, neu’r sawl sydd angen triniaeth frys tra’u bod yng Nghymru.

“Byrddau iechyd lleol sy’n gyfrifol am bob darpariaeth iechyd, gan gynnwys erthyliadau.”