Heddlu arfog ger mosg Finsbury Park, Llundain wedi'r ymosodiad (Llun: PA)
Mae cwest wedi clywed am amgylchiadau marwolaeth dyn a fu farw yn ystod ymosodiad fan yng ngogledd Llundain ar Fehefin 19.

Roedd Makram Ali, 51, newydd adael mosg y Muslim Welfare House yn Finsbury Park pan gafodd ei daro gan gerbyd yn ystod oriau mân y bore.

Er iddo ddioddef “problem feddygol” ychydig cyn y digwyddiad gan syrthio i’r llawr, clywodd y cwest yn Llys y Crwner St Pancras bod Makram Ali yn fyw pan gafodd ei daro gan y cerbyd.

Dangosodd archwiliad post-mortem fod marwolaeth Makram Ali wedi cael ei achosi gan nifer o anafiadau ac fe wnaeth meddygon ddatgan ei fod wedi marw am 1.04yb.

Yn ystod gwrandawiad byr, cafodd y cwest ei agor a’i ohirio gan y Crwner, Mary Hassell, nes bod yr ymchwiliad troseddol wedi dod i ben.

Llofruddiaeth brawychol

Cafodd naw unigolyn arall eu hanafu yn ystod yr ymosodiad ac mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel llofruddiaeth yn ymwneud a brawychiaeth.

Mae Darren Osborne, 47, o Gaerdydd, wedi ymddangos gerbron llys yr Old Bailey wedi’i gyhuddo o lofruddio Makram Ali ac o geisio llofruddio pobol eraill oedd y tu allan i’r mosg.