Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, Llun: PA
Bydd Llafur yn herio Aelodau Seneddol i gefnogi Brexit a fyddai’n “rhoi swyddi yn gyntaf” ac sy’n delifro “union yr un buddiannau” o fod yn y farchnad sengl Ewropeaidd.

Heddiw yw rownd derfynol pleidleisiau Tŷ’r Cyffredin ar Araith y Frenhines.

Dywedodd Jeremy Corbyn nad oedd gan Theresa May fandad i wthio am Brexit caled ar ôl i’r Torïaid golli eu mwyafrif yn y Senedd yn dilyn etholiad cyffredinol trychinebus.

Gobaith Llafur yw y bydd ei gwelliant i raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yn amlygu rhaniadau honedig o fewn y Blaid Geidwadol ar le’r economi yn y trafodaethau Brexit.

Bydd llywodraeth leiafrifol Theresa May yn cael ei phrofi prynhawn yma wrth i’r bleidlais derfynol ar ei rhaglen ddeddfwriaethol gael ei chynnal.

Ond mae’r gefnogaeth y mae wedi sicrhau gan 10 Aelod Seneddol y DUP yn dilyn bargen ddadleuol gwerth £1 biliwn, yn golygu y dylai’r rhaglen basio.

Gallai gwelliannau eraill gael eu cynnwys, gan gynnwys galwadau i fenywod Gogledd Iwerddon allu cael mynediad am ddim at wasanaethau erthylu yn Lloegr.

“Hawl i ddewis”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360: “Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’n gryf hawl menywod i ddewis ac am i bob erthyliad gael ei gynnal yn ddiogel ac yn broffesiynol yn unol â gofynion y ddeddf erthylu.

“Ar hyn o bryd, mae erthyliadau ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, neu’r sawl sydd angen triniaeth frys tra’u bod yng Nghymru.

“Byrddau iechyd lleol sy’n gyfrifol am bob darpariaeth iechyd, gan gynnwys erthyliadau.”

Theresa May ym Merlin

Mae Theresa May mewn cyfarfod ag arweinwyr byd ym Merlin heddiw ond mae ei mwyafrif simsan yn golygu y bydd yn rhaid iddi ddod yn ôl i San Steffan prynhawn yma i bleidleisio dros y rhaglen.

Mae’r Prif Weinidog yn cwrdd â Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron ac arweinwyr Ewropeaidd eraill i drafod cynlluniau ar gyfer yr uwch-gynhadledd G20 yr wythnos ganlynol.

Mae’n debyg y byddan nhw’n trafod sut i roi pwysau ar Arlywydd America, Donald Trump, ar ôl iddo wrthod arwyddo cytundeb rhyngwladol ar newid hinsawdd.