Nicola Sturgeon
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cadarnhau y bydd ail bleidlais ar annibyniaeth i’r Alban yn cael ei gohirio wrth iddi “ail-lunio” yr amserlen ar gyfer cynnal refferendwm arall.

Dywedodd Nicola Sturgeon ym mis Mawrth ei bod hi eisiau cynnal yr ail refferendwm rywbryd rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019.

Ond wrth annerch Holyrood prynhawn heddiw dywedodd: “Ni fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth er mwyn cynnal ail refferendwm ar unwaith.”

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i “ddylanwadu ar drafodaethau Brexit” er mwyn sicrhau obd y Deyrnas Unedig yn aros yn y farchnad sengl.

Er y newid i’w chynlluniau mynnodd Nicola Sturgeon ei bod o hyd yn cefnogi cynnal ail bleidlais gan nodi mai refferendwm annibyniaeth “yw’r ateb cywir a’r ateb gorau i heriau’r Alban.”

“Ar ddiwedd proses Brexit, dw i ynghyd â’r Llywodraeth o hyd yn credu y dylai fod gan bobol yr Alban yr hawl i benderfynu cyfeiriad y wlad yn y dyfodol,” meddai.