Plismon tu allan i gartref Darren Osborne ym Mhentwyn, Caerdydd (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Mae dyn 47 oed o Gaerdydd wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio yn ystod ymosodiad brawychol Finsbury Park.

Fe ymddangosodd Darren Osborne gerbron yr Old Bailey trwy gyswllt fideo o garchar diogel Belmarsh, lle mae’n cael ei gadw nes y bydd yn sefyll ei brawf.

Bu farw un dyn, ac fe gafodd naw o bobol eu cludo i’r ysbyty wedi i fan yrru i ganol grwp o bobol ger mosg Finsbury Park yn ystod oriau mân dydd Llun, Mehefin 19. Roedd yr ardal yn ferw gan addolwyr ar eu ffordd i weddïo yn ystod cyfnod Ramadan.

Mae Darren Osborne, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi’i gyhuddo o ladd Makram Ali, 51, ac o geisio llofruddio pobol eraill yn yr ardal.

Doedd yna ddim cais am fechnïaeth, ac fe gafodd Darren Osborne ei gadw yn y ddalfa gan y barnwr, Nicholas Hilliard QC. Fe fydd y diffynydd yn ymddangos eto gerbron yr Old Bailey ar Orffennaf 20.