Theresa May ac Arlene Foster o'r DUP, y tu allan i Rif 10 (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Mae’r DUP wedi dod i gytundeb i gefnogi llywodraeth leiafrifol y Ceidwadwyr yn dilyn trafodaethau yn Rhif 10 rhwng Theresa May ac arweinydd y blaid unoliaethol Arlene Foster.

Dywedodd Arlene Foster ei bod hi “wrth ei bodd” gyda’r cytundeb.

Ac fe ychwanegodd y Prif Weinidog bod y DUP a’r Torïaid yn “rhannu nifer o werthoedd” a bod y cytundeb yn un “da iawn.”

Y tu allan i Downing Street, dywedodd Arlene Foster bod setliad ariannol o tua £1 biliwn wedi cael ei roi i Ogledd Iwerddon fel rhan o’r cytundeb.

Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i hybu economi’r rhanbarth a buddsoddi mewn isadeiledd newydd, iechyd, addysg a sectorau eraill, meddai.

Mewn datganiad, dywedodd Theresa May y bydd y DUP yn cefnogi Llywodraeth y Ceidwadwyr mewn pleidleisiau yn ymwneud ag Araith y Frenhines, y Gyllideb, a deddfwriaeth mewn perthynas â Brexit, a diogelwch cenedlaethol, o dan amodau’r cytundeb.

“Anwybyddu gweddill y Deyrnas Unedig”

Ond mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad gan ddweud bod Theresa May “wedi ceisio diogelu ei gyrfa wleidyddol drwy daflu arian at Ogledd Iwerddon tra’n anwybyddu gweddill y Deyrnas Unedig.”

Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon hefyd wedi bod yn hynod feirniadol o’r cytundeb gan ddweud y bydd yr Alban ar ei cholled.

Mae Theresa May wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r DUP ar ôl methu a sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.

Roedd hi wedi bod yn ceisio cael cefnogaeth 10 Aelod Seneddol y blaid cyn i bleidleisiau gael eu cynnal yr wythnos hon ar raglen wleidyddol y Ceidwadwyr a gafodd ei chyhoeddi yn Araith y Frenhines wythnos ddiwethaf.

Stormont

Wrth gyfeirio at y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon dywedodd y Prif Weinidog Theresa May ei bod yn gobeithio y byddai’r pleidiau “yn dod ynghyd” i adfer y llywodraeth yn Stormont erbyn 29 Mehefin.

Does dim gweithgor wedi bod yn Stormont ers mis Mawrth, a dim Prif Weinidog na Dirprwy Brif Weinidog ers mis Ionawr ar ôl i Sinn Fein ddirwyn y senedd i ben yn dilyn ffrae â’r DUP.