Arlene Foster, arweinydd y DUP Llun: PA
Mae arweinydd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP), Arlene Foster, wedi dweud ei body n gobeithio sicrhau cytundeb terfynol gyda’r Ceidwadwyr wrth iddi gyrraedd Llundain i ail-ddechrau trafodaeth gyda Theresa May.

Fe fydd manylion unrhyw gytundeb rhwng y ddwy blaid yn “hollol dryloyw” mynnodd Arlene Foster wrth iddi gyrraedd Rhif 10 ar gyfer y trafodaethau.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r DUP ar ôl methu a sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.

Mae hi wedi bod yn ceisio cael cefnogaeth 10 Aelod Seneddol y blaid cyn i bleidleisiau gael eu cynnal yr wythnos hon ar raglen wleidyddol y Ceidwadwyr a gafodd ei chyhoeddi yn Araith y Frenhines wythnos ddiwethaf.

Eisoes, mae’r DUP wedi ei gwneud yn glir y bydd yn dod i gytundeb ar yr amod bod buddiannau i Ogledd Iwerddon o ran swyddi a buddsoddiad mewn iechyd ac addysg.

Ond mae rhai Ceidwadwyr wedi mynegi pryderon am glymbleidio â’r blaid unoliaethol oherwydd ei gwrthwynebiad i briodasau un-rhyw ac erthyliad.