Twr Grenfell Llun: Wikipedia
Fe fydd y Prif Weinidog yn clywed y diweddaraf am Dŵr Grenfell yn ddiweddarach heddiw wrth i nifer y tyrrau uchel o fflatiau sy’n wynebu’r un risg diogelwch tân gynyddu.

Mae samplau o ddeunydd allanol 60 o dyrrau uchel mewn 25 o awdurdodau lleol yn Lloegr  wedi methu profion diogelwch tân a gafodd eu cynnal wedi’r drasiedi.

Mae 79 o bobl wedi marw neu ar goll a nifer wedi’u hanafu yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell ar 14 Mehefin.  Cafodd y Llywodraeth a Chyngor Kensington a Chelsea eu beirniadu’n chwyrn am eu hymateb i’r digwyddiad wrth i gannoedd o bobl barhau’n ddigartref.

O’r 34 o samplau a gafodd eu profi gan 17 o awdurdodau lleol, roedd 100% wedi methu, meddai’r Ysgrifennydd Cymunedau Sajid Javid ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl i Theresa May gadeirio cyfarfod o Dasglu  Tŵr Grenfell ddydd Llun, meddai Downing Street, ac mae’n debyg y bydd yn clywed faint o dyrrau uchel a allai fod a deunydd allanol sy’n peri risg.

Symud miloedd o’u cartrefi

Mae pryderon am ddiogelwch wedi golygu bod miloedd o bobl wedi’u symud o’u cartrefi yng ngogledd Llundain ddydd Gwener.

Cafodd trigolion 600 o fflatiau ar Stad Chalcots yn Camden eu symud i lety dros dro, wrth i swyddogion rybuddio y gallai gymryd hyd at fis i’r gwaith gael ei gwblhau.

Dywedodd Cyngor Camden bod pryderon ynglŷn â’r deunydd allanol ar yr adeiladau wedi arwain at faterion diogelwch tân eraill yn cael eu nodi, gyda gorchymyn i symud y trigolion yn dilyn ymgynghoriad gyda swyddogion tân.

Mae Maer Llundain Sadiq Khan wedi cefnogi penderfyniad y cyngor i symud pobl o’r fflatiau.

Mae 200 o drigolion y fflatiau wedi gwrthod symud o’u cartrefi.