Fe fydd bachgen 16 oed yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o dreisio merch wyth oed mewn parc ym Manceinion.

Honnir bod y bachgen, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, wedi ymosod ar y ferch ym Mharc Nuthurst yn ardal Moston yn y ddinas, nos Sadwrn.

Fe fydd yn mynd gerbron Llys Ieuenctid Manceinion ddydd Llun, meddai Heddlu Manceinion.