Mae dyn ifanc a gafodd ei drywanu trwy’i galon ar y ffordd adref o noson allan yn ystod oriau mân ddydd Sul, wedi marw ym mreichiau ei rieni, meddai ditectifs.

Mae Heddlu’r West Midlands yn ymchwilio i lofruddiaeth James Brindley yn Aldridge ger Walsall – ac maen nhw’n chwilio’n benodol am berchnogion pedwar car a basiodd y fan lle cafodd ei drywanu tra’r oedd popeth yn digwydd.

Mae ditectifs yn dal i chwilio am y gyllell a gafodd ei defnyddio i drywanu James Brindley ar y stryd fawr toc cyn hanner nos.

Ond mae’r heddlu wedi cadarnhau i’r dyn 26 oed farw ar y stryd, ym mreichiau ei rieni, wedi iddyn nhw ruthro yno i fod gydag o.

Roedd James Brindley wedi treulio’r noson allan gyda’i gariad a’i ffrindiau, ac roedd yn cerdded adref ar ei ben ei hun pan ddigwyddodd yr ymosodiad.