Mae chwech o bobol yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty wedi i fenyw yrru ei char i mewn i dyrfa o bobol ar ôl iddi fod yn dathlu gwyl grefyddol Eid gyda’i theulu.

Mae’r wraig 42 oed wedi cael ei harestio gan Heddlu Northumbria yn dilyn y gwrthdawriad a ddigwyddodd toc wedi 9yb ddydd Sul y tu allan i ganolfan chwaraeon yn Newcastle. Roedd nifer o bobol yno ar gyfer gweddïo.

Ar hyn o bryd, dyw’r heddlu ddim yn credu bod lle i amau mai ymosodiad brawychol oedd hwn.

Mae chwech o bobol – yn cynnwys tri o blant – wedi’u cludo i Inffyrmari Brenhinol Fictoria. Mae dau o’r blaen yn yr adran gofal dwys, ac mae un oedolyn yn cael ei drin yn yr adran trawma.