Mae aelodau Seneddol wedi’u rhybuddio i newid a chryfhau eu cyfrineiriau, wedi i hacwyr lwyddo i gael mynediad i system San Stedfan.

Fe lwyddodd hacwyr i amharu ar wasanaethau Ty’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi, wrth iddyn nhw geisio dro ar ôl tro i gael at negeseuon aelodau y ddwy siambr a’u staff.

O ganlyniad, fe gafodd yr ASau a’r Arglwyddi eu cloi allan o’u cyfrifon o bell – dim ond yn uniongyrchol o’u desgiau yn San Steffan.

Mae’r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol (NCSC) a’r Asiantaeth Drosedd Genedlaethol (NCA) yn ymchwilio i’r digwyddiad. Yn y cyfamser, mae adroddiadau fod cyfrineiriau aelodau Cabinet ac Aelodau Seneddol ar werth ar y we.

A dyna pam y maen nhw’n rhybuddio y gallai hacwyr geisio blacmelio gwleidyddion.