Tŵr Grenfell (Llun: Wikipedia)
Mae plaid y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am gyhoeddi argyfwng yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, wrth i bobol orfod gadael eu cartrefi.
Maen nhw hefyd yn galw am ddigolledu teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan bryderon am ddiogelwch adeiladau sydd â chladin arbennig arnyn nhw.
‘Argyfwng sifil’
Dywedodd Llywydd y blaid, y Farwnes Brinton, sy’n aelod o bwyllgor diogelwch tân ac achub San Steffan fod y sefyllfa’n “argyfwng sifil”.
“Rhaid i’r Llywodraeth sicrhau arian i gynghorau lleol wneud popeth sy’n angenrheidiol er mwyn cadw pobol yn ddiogel a digolledu’r rhai sydd wedi cael anghyfleustra i’w bywydau.
“Fe wnaeth Cyngor Camden y peth iawn wrth wagio blociau tŵr anniogel.
“Ond rhaid trin y rhai sydd wedi’u heffeithio yn deg a gydag urddas.”
Galwodd hefyd am atal treth y cyngor i bobol sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.