Gerry Adams (Llun: PA)
Mae angen i genedlaetholwyr a gweriniaethwyr fabwysiadu agwedd newydd er mwyn darbwyllo unoliaethwyr ynghylch manteision uno Iwerddon.

Dyna oedd neges Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams yng nghynhadledd y blaid yn Belfast heddiw.

Dywedodd y gallai Iwerddon bleidleisio o blaid uno Iwerddon “o fewn ychydig flynyddoedd”, ond dim ond pe bai modd gwyrdroi gwrthwynebiad yr unoliaethwyr Prydeinig.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer dod i gytundeb rhwng y DUP a Sinn Fein yn Stormont yr wythnos nesaf, ond fe rybuddiodd Gerry Adams fod barn y pleidiau gwleidyddol ynghylch uno Iwerddon wedi’i hollti o hyd.

Dywedodd fod angen mwy nag achos economaidd ar y gweriniaethwyr er mwyn ennill y ddadl.

‘Iwerddon newydd’

Dywedodd: “Mae angen agwedd newydd arnom, un sy’n datgloi gwrthwynebiad yr unoliaethwyr i Iwerddon newydd drwy eu hatgoffa o’u lle hanesyddol yma ac am y cyfraniad positif maen nhw wedi’i wneud i’r gymdeithas ar yr ynys hon.

“Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr agweddau negyddol o’n pedair canrif o hanes cyffredin, rwy’n awgrymu ein bod ni’n cofleidio’r meysydd lle mae cytundeb a chydweithredu; sef cymdogaeth a’r lles cyffredin.

“Fe ddaw Iwerddon wirioneddol unedig o ddod â phobol yr ynys hon yn ôl at ei gilydd yn seiliedig ar gydraddoldeb.”

Neges i’r gweriniaethwyr

Fe alwodd Gerry Adams ar i’r gweriniaethwyr gofio am gyfraniad Protestaniaid i Iwerddon ar hyd y canrifoedd.

“Y realiti yw, am bedwar can mlynedd eu presenoldeb ar yr ynys hon, mae Protestaniaid ac yn enwedig Protestaniaid y gogledd wedi cael eu plethu i naratif sy’n creu hanes Iwerddon.

“Tra bod y naratif wedi bod yn gythryblus ar adegau, mae hefyd wedi bod yn ddeinamig.”

Dywedodd y dylai’r naill ochr a’r llall barchu hawl ei gilydd i fod yn Wyddel neu’n Brydeiniwr – a bod hynny’n galw am ystyried beth yw Prydeindod.

“Gobeithio hefyd fel rhan o’r broses hon y byddan nhw’n ystyried beth yw bod yn Wyddel.”