Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Roedd y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Llafur o’r farn y byddai Jeremy Corbyn yn eu harwain i ddinistr yn yr etholiad cyffredinol diweddar, yn ôl Diane Abbott.
Dywedodd y llefarydd materion cartref wrth gynhadledd fod y blaid yn “set o bobol mewn trallod” cyn yr etholiad.
“Roedden nhw’n rhagweld y byddai Jeremy yn ein harwain i ddinistr; roedd y rhan fwyaf yn credu nad oedd gan unrhyw un â mwyafrif o lai na 5,000 obaith o ddod yn ôl, ac roedd hi’n drist iawn yn y dyddiau a’r oriau olaf hynny.
“Ond fel y gwyddon ni nawr, enillon ni 40% o’r bleidlais.”
Ychwanegodd mai’r Ceidwadwyr oedd yn edrych “mewn trallod” ar ddiwrnod cynta’r Senedd newydd ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Ymgyrch ‘ddim yn berffaith’
Serch hynny, dywedodd Diane Abbott nad oedd ymgyrch y Blaid Lafur yn berffaith, er i’r blaid uno y tu ôl i Jeremy Corbyn fel arweinydd.
Mynnodd hi na fyddai Llafur yn ennill rhagor o bleidleisiau drwy symud yn nes at y canol ar fater mewnfudwyr.
“Dydy rhai o’r syniadau ynghylch mewnfudwyr ddim yn gwneud unrhyw synnwyr economaidd, moesol a dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â gwerthoedd y Blaid Lafur.”