Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn gael croeso cynnes yn Glastonbury heddiw, lle bydd e’n cyflwyno’r deuawd Run The Jewels ar lwyfan Pyramid.

Bydd e hefyd yn annerch y gynulleidfa oddi ar lwyfan Left Field yn ystod ei ymweliad.

Fe yw’r gwleidydd diweddaraf i ymweld â’r ŵyl yng Ngwlad yr Haf, ar ôl Yvette Cooper ac Ed Balls a’i ddirprwy Tom Watson.

Fe fu’r dorf yn llafarganu enw Jeremy Corbyn ers dechrau’r digwyddiad ddydd Mercher.

Mae baneri, crysau-T a nwyddau eraill yn dwyn ei enw a’i lun ar werth yno hefyd.

Mae disgwyl miloedd o bobol ger y llwyfan heddiw i’w glywed e’n siarad am 4.30pm.

Fe fydd Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell yn cymryd rhan mewn sgwrs banel am ddemocratiaeth ar lwyfan Left Field am ganol dydd yfory.