Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddyn 26 oed gael ei drywanu i farwolaeth ger Walsall yng nghanolbarth Lloegr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i stryd fawr Aldridge toc cyn canol nos neithiwr.
Mae’r heddlu’n edrych ar luniau camerâu cylch-cyfyng fel rhan o’u hymchwiliad.
Dydy’r heddlu ddim yn gwybod eto pam y digwyddodd yr ymosodiad, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth.