Mae dyn 19 oed wedi’i arestio yn dilyn adroddiadau ei fod yn bwriadu ymosod ar bobol oedd yn mynd i ddigwyddiad LGBT yn Swydd Cumbria.

Roedd heddlu’r ardal wedi rhybuddio’r bobol oedd yn bwriadu mynd i’r digwyddiad i aros gartref ar ôl iddyn nhw gael gwybod am y cynllwyn nos Wener.

Cafodd heddlu arfog eu hanfon i’r ardal.

Dywedodd llefarydd fod y dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.