Mae cannoedd o bobol sy’n byw mewn fflatiau yn Llundain wedi cael eu symud o’u cartrefi yn dilyn pryderon am eu diogelwch.

Dywedodd swyddogion tân nad oedden nhw’n gallu sicrhau bod trigolion ystad Chalcots yn Camden yn ddiogel gan fod lle i gredu bod yr un cladin wedi cael ei ddefnyddio arnyn nhw â’r un ar fflatiau Tŵr Grenfell.

Roedd disgwyl i’r gwaith o dynnu cladin oddi ar yr adeiladau yn Camden ddechrau, ond daeth gorchymyn gan Gyngor Camden i bobol adael eu cartrefi am y tro.

Mae’r trigolion wedi cael eu symud i ganolfannau dros dro neu i lety yr ochr draw i Lundain.

Cefnogaeth

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May bod ei “meddyliau gyda’r trigolion” a bod y llywodraeth yn “cynnig pob cefnogaeth” iddyn nhw.

Ond mae rhai trigolion wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud eu bod nhw wedi clywed am y sefyllfa ar y newyddion.

Yn y cyfamser, mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried dwyn cyhuddiadau o ddynladdiad yn achos Tŵr Grenfell oherwydd bod rheoliadau tân wedi cael eu hesgeuluso.