Heddlu arfog ger mosg Finsbury Park
Mae dyn sydd dan amheuaeth o ymosod ar Fwslemiaid wrth iddyn nhw adael mosg, wedi ei gadw yn y ddalfa ac wedi ei gyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio.
Cafodd Darren Osborne, 47, ei arestio gan heddlu yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun ar amheuaeth o fod wedi gyrru ei fan mewn i dorf o addolwyr yn Finsbury Park, Llundain.
Bu farw un dyn o’i anafiadau a chafodd nifer o bobol eraill eu hanafu yn ystod yr ymosodiad.
Ymddangosodd Darren Osborne, sy’n dod o Weston-super-Mare yn wreiddiol, gerbron Llys Ynadon San Steffan y prynhawn yma.
Bydd yn ymddangos gerbron Llys yr Old Bailey ar Fehefin 27.