Ed Sheeran yn derbyn gwobr Grammy y llynedd gyda'r Gymraes Amy Wadge sy'n ei helpu i gyfansoddi caneuon.
Er bod Ed Sheeran wedi cael un o slotiau gorau Gŵyl Glastonbury dros y penwythnos, mae’r canwr cringoch wedi cyfaddef ei fod “ddim wir yn hoff o wyliau”.
Mae Glastonbury yn denu degau o filoedd o bobol i gaeau yn Somerset, ac Ed Sheeran fydd â’r anrhydedd o gloi’r ŵyl ar Lwyfan y Pyramid nos Sul.
Wrth siarad ar raglen The Chris Evans Breakfast Show ar Radio 2 y BBC dywedodd y canwr poblogaidd ei fod yn hoffi gweld “ambell i fand” ond bod awyrgylch gwyliau ar y cyfan yn “llethol”.
Newid meddyliau’r rhai sydd ddim yn hoff o’i gerddoriaeth.
“Dw i’n edrych ymlaen at chwarae o flaen llawer o bobol sydd ddim yn hoff fi na fy ngherddoriaeth,” meddai.