Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal trafodaethau yn Stormont “heb awydd na brwdfrydedd” ac yn canolbwyntio fwy ar ddêl gyda’r DUP yn San Steffan, yn ôl Sinn Fein.

Yn ôl y gwleidydd Sinn Fein, Conor Murphy, mae ei blaid yn pryderu na fydd modd taro dêl ar amser er mwyn adfer Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon, oherwydd y DUP a’r Ceidwadwyr.

Mae Gogledd Iwerddon wedi bod heb Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog ers mis Ionawr pan ymddiswyddodd y diweddar Martin McGuinness dros sgandal egni adnewyddadwy.

Os na fydd cytundeb erbyn dydd Mawrth mae’n bosib bydd yn rhaid i’r wlad gael ei rheoli yn uniongyrchol o San Steffan am gyfnod.

“Amser yn brin”

“Mewn gwirionedd mae’r Llywodraeth Brydeinig yn cynnal trafodaethau heb awydd na brwdfrydedd, tra bod nhw’n canolbwyntio ar eu diddordebau eu hunain yn Llundain,” meddai Conor Murphy.

“Gan fod y Llywodraeth Brydeinig ar DUP yn canolbwyntio ar faterion eraill dydyn ni ddim wedi gweld ymrwymiad digonol yma yng Ngogledd Iwerddon. Rydym yn bryderus iawn am y sefyllfa yn fan hyn. Mae amser yn brin.”