Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn teithio i Frwsel heddiw er mwyn trafod ei chynllun am ddyfodol dinasyddion Ewropeaidd ym Mhrydain yn dilyn Brexit.

Yn ystod cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd mi fydd Theresa May hefyd yn gobeithio diogelu dyfodol miliwn o Brydeinwyr sydd yn byw ar y cyfandir.

Mae Downing Street wedi gwrthod manylu ar gynnwys ei chynllun ar hawliau dinasyddion ond maen nhw’n mynnu fod ganddi “gynnig arbennig.”

Yn ystod y cyfarfod bydd Theresa May hefyd yn cyflwyno cynllun £75 miliwn i atal mewnfudo anghyfreithlon i Ewrop, ac yn trafod cynlluniau gwrth-frawychiaeth.

Trafodaethau

Daw’r daith ond ychydig ddyddiau wedi dechreuad swyddogol trafodaethau Brexit, lle wnaeth yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, gwrdd â Phrif Drafodwr y Comisiwn Ewropeaidd, Michel Barnier.

Yn sgil cyfarfod ddydd Llun, mae’r ddau ochr yn gytûn y bydd cynllun am berthynas masnachol newydd ag Ewrop yn cael ei hystyried yn llawer hwyrach yn y trafodaethau.