Theresa May yn America fis Ionawr... ond dim son am ymweliad Donald Trump bellach
Does dim son o gwbwl am ymweliad dadleuol Arlywydd yr Unol Daleithiau â gwledydd Prydain yn Araith y Frenhines.

Mae’n ymddangos fod yr ymweliad hwnnw wedi’i ohirio am y tro, gan nad yw ymhlith y gweithgareddau sydd wedi’u rhestru yn agoriad Senedd San Steffan.

Mae’r araith yn trafod y ddwy flynedd nesaf, ac fel arfer mae’n rhoi rhag-rybudd o ymweliadau gan wleidyddion a chynrychiolwyr gwledydd eraill. Mae araith eleni yn cyfeirio at ymweliad Brenin Felipe a Brenhines Letizia o Sbaen ym mis Gorffennaf.

Er i Theresa May estyn gwahoddiad i Donald Trump yn ystod ei hymweliad â’r Unol Daleithiau ym mis Ionawr elenei – a hynny yn enw’r Frenhines – y gred ydi bod yr Arlywydd wedi cael traed oer dros yr wythnosau diwethaf wrth feddwl y gallai gyrraedd Llundain i ganol protestiadau yn ei erbyn.

Yn ddiweddar hefyd, fe aeth Donald Trump i ffraeo gyda Maer Llundain, Sadiq Khan, ar wefan gymdeithasol Twitter, a hynny am ei ymateb i’r ymosodiadau brawychol diweddar ym mhrifddinas Lloegr.